SIOE GELF FFION DAFIS gyda Iwan Bala a Twm Morys (BBC RADIO CYMRU )
Recordiad ar gyfer sioe Ffion Dafis i BBC Radio Cymru a BBC Sounds gydag Iwan Bala yn trafod ei arddangosfa 'Yr hen o’r newydd yw'
I ddathlu arddangosfa newydd Iwan Bala ‘Yr hen ddweud o’r newydd yw’ bydd Storiel, Amgueddfa Gwynedd yn cynnal noson o ddau hanner fydd yn trafod yr arddangosfa a chelfyddydau cyfoes Cymru.
Bydd rhan gyntaf y noson yn gyfweliad rhwng yr artist a’r gyflwynwraig Ffion Dafis fydd yn cael ei darlledu ar sioe BBC Radio Cymru a BBC Sounds ‘Ffion Dafis’ sy’n craffu ar y byd celfyddydol yng Nghymru a thu hwnt.
Yn yr ail ran y noson bydd Iwan Bala yn trafod gyda’r bardd a’r cerddor Twm Morys ‘Barddoniaeth Gweledol’ - trafodaeth fydd yn crwydro i sgyrsiau amrywiol ynglŷn a diwylliant, celfyddydau, hanes, traddodiad ayyb - er mwyn ceisio dod i ddeall beth yw ‘yr hen ddweud o’r newydd yw’, a’r ffaith fod delweddau a ‘dweud’ yn ngwaith Iwan Bala yn ymdebygu i fynegiant beirdd fel Twm Morys!