Skills, Technology and the Changing Nature of Work: Findings from SES2024

Please use this page to sign up for the second SES2024 Launch Event on Monday 19 May

179 followers
By WISERD
179 followers
3.9k attendees hosted 📈

Date and time

Monday, May 19 · 12:30 - 4pm GMT+1

Location

Broadway House

Tothill Street London SW1H 9NQ United Kingdom

About this event

  • Event lasts 3 hours 30 minutes

Dear Colleague,

You are warmly invited to the Skills and Employment Survey 2024 launch event on Monday 19 May 2025. This national study of around 5,500 adults in paid employment focuses on the work that people do and how working life has changed over time in the UK. It builds on similar surveys stretching as far back as 1986. The 2024 results will therefore provide a unique picture of change over the last 40 years.

The event will be chaired by Sarah O’Connor, Associate Editor of the Financial Times. The research team – Alan Felstead, Rhys Davies, Duncan Gallie, Francis Green, Golo Henseke and Ying Zhou – will present headline findings of the survey and outline policy implications relating to four important questions forming the basis of these short reports:

What Drives AI and Robot adoption?

The rise of Artificial Intelligence (AI) and robotics in the workplace has sparked debates about their potential to reshape how we work, learn and interact. Against this backdrop, this report examines the evolution of work digitalisation since the 1990s, the drivers of AI and robot adoption in 2023/2024, and how technology adoption relates to workforce reductions.

Are Skill Requirements on the Rise?

Skills are integral to supporting the development of the United Kingdom as a high wage-high growth economy. This report examines key trends in qualifications held, the different types of skills used at work, trends in job related training and learning at work and the degree to which workers can use the qualifications, skills and experience that they possess.

Is the Job Quality Gender Gap Narrowing?

This report examines whether the job quality gender gap is widening or narrowing along six key dimensions: Working Time Quality, Weekly Earnings, Job Security, Autonomy & Skill, the Physical Environment and Work Intensity. The report derives indices and tracks the gender gap at intervals over the last four decades.

Is the Office Dying?

This report examines historical trends in those working exclusively at home (homeworkers) and those working partly in the office and partly at home (hybrid workers). It identifies which groups have been affected most/least and highlights the factors most closely associated with workers’ ability to carve out dedicated spaces of work within the home to create a home office.


Hard copies of these reports will be available at the event and can be viewed online at wiserd.ac.uk/ses/ses2024.

The launch event will be preceded by a buffet lunch served from 12.30pm. Presentations will begin at 1.30pm with short introductions from the sponsors – the Economic and Social Research Council, the Department for Education, Acas and the Department for the Economy Northern Ireland. This will be followed by 20-minute, theme-focused presentations by the research team, followed by a period of discussion. The event is estimated to end at 3:45pm.

Fe'ch gwahoddir yn gynnes i ddigwyddiad lansio Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth 2024 (SES2024) Dydd Llun 19 Mai 2025. Mae'r astudiaeth genedlaethol hon o tua 5,500 o oedolion mewn cyflogaeth â thâl yn canolbwyntio ar y gwaith y mae pobl yn ei wneud a sut mae bywyd gwaith wedi newid dros amser yn y DU. Mae'n adeiladu ar arolygon tebyg sy'n ymestyn mor bell yn ôl â 1986. Felly, bydd canlyniadau 2024 yn rhoi darlun unigryw o newid dros y 40 mlynedd diwethaf.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gadeirio gan Sarah O'Connor, Golygydd Cyswllt y Financial Times, a byddwn yn cyhoeddi manylion cofrestru yn fuan. Bydd y tîm ymchwil – Alan Felstead, Rhys Davies, Duncan Gallie, Francis Green, Golo Henseke a Ying Zhou – yn cyflwyno prif ganfyddiadau'r arolwg ac yn amlinellu goblygiadau polisi sy'n ymwneud â phedwar cwestiwn pwysig sy'n sail i'r adroddiadau byr hyn:

Beth sy'n ysgogi deallusrwydd artiffisial a mabwysiadu roboteg?

Mae cynnydd deallusrwydd artiffisial (AI) a roboteg yn y gweithle wedi sbarduno dadleuon am eu potensial i drawsnewid sut rydyn ni’n gweithio, yn dysgu ac yn rhyngweithio. Yng ngoleuni hyn, mae’r adroddiad hwn yn trin a thrafod esblygiad digideiddio gwaith ers y 1990au, ffactorau deallusrwydd artiffisial a mabwysiadu roboteg yn 2023/2024, a sut mae mabwysiadu technoleg yn ymwneud â gostyngiadau yn y gweithlu.

A yw'r gofynion sgiliau ar gynnydd?

Mae sgiliau yn hanfodol i gefnogi datblygiad y Deyrnas Unedig yn economi twf uchel-cyflog uchel. Mae’r adroddiad hwn yn trin a thrafod tueddiadau allweddol yn y cymwysterau sydd gan weithwyr, y gwahanol fathau o sgiliau a gaiff eu defnyddio yn y gwaith, tueddiadau mewn hyfforddiant sy’n gysylltiedig â’r swydd a dysgu yn y gwaith, ac i ba raddau y gall gweithwyr ddefnyddio’r cymwysterau, y sgiliau a’r profiad sydd ganddyn nhw.

Ydy'r bwlch rhwng y rhywiau o ran ansawdd swyddi yn lleihau?

Mae’r adroddiad hwn yn trin a thrafod a yw’r bwlch rhwng y rhywiau o ran ansawdd swyddi yn ehangu neu’n lleihau mewn chwe maes penodol: Ansawdd Amser Gweithio, Enillion Wythnosol, Sicrwydd yn y Swydd, Annibyniaeth a Sgil, yr Amgylchedd Ffisegol a Dwysedd Gwaith. Mae’r adroddiad yn creu mynegeion ac yn olrhain y bwlch rhwng y rhywiau ar adegau dros y pedwar degawd diwethaf.

Ydy gweithio yn y swyddfa yn dod i ben?

Mae'r adroddiad hwn yn trin a thrafod tueddiadau hanesyddol yn y rhai sy'n gweithio gartref (gweithwyr gartref) yn unig a'r rhai sy'n gweithio'n rhannol yn y swyddfa ac yn rhannol gartref (gweithwyr hybrid). Mae'n nodi pa grwpiau sydd wedi’u heffeithio fwyaf/lleiaf ac mae'n amlygu'r ffactorau sydd wedi’u cysylltu’n agos â gallu gweithwyr i neilltuo mannau penodol o'u cartrefi ar gyfer gwaith er mwyn sefydlu swyddfa yn y cartref.


Bydd copïau caled o'r adroddiadau hyn ar gael yn y digwyddiad ac i'w gweld ar-lein wedyn yn https://wiserd.ac.uk/cy/project/asc/asc2024/.

Bydd y digwyddiad lansio yn cael ei ragflaenu gan ginio bwffe a weinir o 12.30pm. Bydd cyflwyniadau'n dechrau am 1.30pm gyda chyflwyniadau byr gan y noddwyr – y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, yr Adran Addysg, Acas ac Adran yr Economi Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan gyflwyniadau 20 munud sy'n canolbwyntio ar thema gan y tîm ymchwil, ac yna cyfnod o drafod. Disgwylir i'r digwyddiad ddod i ben am 3.45pm.

Tickets

Organized by

179 followers
3.9k attendees hosted

The Wales Institute of Social and Economic Research and Data (WISERD) is a national, interdisciplinary, social science research institute. We have been designated by the Welsh Government as a national research centre. Using innovative approaches, our research spans the fields of economics, sociology, geography and political science.

We are a collaborative venture between the universities of Aberystwyth, Bangor, Cardiff, South Wales and Swansea – working together to improve the quality and quantity of social science research in Wales and beyond. Our research effects change by influencing the development of policy and practice across a range of sectors.

-------

Mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) yn sefydliad ymchwil gwyddorau cymdeithasol rhyngddisgyblaethol cenedlaethol. Rydym wedi ein dynodi gan Lywodraeth Cymru’n ganolfan ymchwil genedlaethol. Gan ddefnyddio dulliau arloesol, mae ein hymchwil yn cwmpasu economeg, cymdeithaseg, daearyddiaeth a gwyddoniaeth wleidyddol. 

Rydym yn gydfenter rhwng prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe - yn cydweithio i wella safon a maint ymchwil y gwyddorau cymdeithasol yng Nghymru a thu hwnt. Mae ein hymchwil yn effeithio ar newid drwy ddylanwadu ar ddatblygiad polisi ac arfer ar draws ystod o sectorau.