Casglu: Adrodd Straeon ac Actio: dwy ochr o’r un geiniog?

Casglu: Adrodd Straeon ac Actio: dwy ochr o’r un geiniog?

By University of South Wales / Prifysgol De Cymru

Wedi’i gynnal gan Wendy Shearer, cythruddiad gan Michael Harvey a Dr Alastair K. Daniel

Date and time

Location

Online

Good to know

Highlights

  • 1 hour 15 minutes
  • Online

About this event

Arts • Theatre

Mae llawer o elfennau sy’n croestorri rhwng adrodd straeon ac actio, a gellid dadlau fod storïwyr yn defnyddio llawer o sgiliau actio yn eu hymarfer. Beth ydych chi’n ystyried y gwahaniaeth mwyaf rhwng actio ac adrodd straeon?


Bywgraffiad – Michael Harvey

Rwy’n adrodd straeon o draddodiadau llafar y byd ar gyfer pob oedran. Mae fy repertoire wedi'i leoli yng Nghymru a'r gwledydd Celtaidd eraill ond rwy’n hoff o stori dda, ni waeth o ble y daw. Rwy'n gweithio mewn lleoliadau cymunedol, mewn ysgolion, mewn theatrau, gwyliau, llyfrgelloedd, neuaddau pentref, tafarndai, amgueddfeydd ac orielau. Rwy'n hyfforddi storïwyr a'r rhai sydd eisiau dod yn storïwyr ac rwy'n hyfforddi athrawon i ddefnyddio adrodd straeon fel offeryn pwerus ar gyfer llythrennedd a chaffael ail iaith. Mae fy ngwaith wedi'i wreiddio yng Nghymru ond rwy'n gweithio ledled y DU ac yn aml mewn gwyliau dramor ac mewn cydweithrediad ag artistiaid Ewropeaidd eraill.

https://www.michaelharvey.org/


Bywgraffiad – Dr Alastair K. Daniel

Mae Dr Alastair K. Daniel yn storïwr a pherfformiwr, ysgolhaig annibynnol ac ymgynghorydd mewn adrodd straeon (a meysydd cysylltiedig) sy'n gweithio yn y DU a thramor (yn fwyaf diweddar ym Moroco, Gwlad Groeg a Gwlad Belg). Yn gyn-athro drama, treuliodd Alastair ddeuddeg mlynedd yn teithio ysgolion fel storiwr yn y DU a'r Iseldiroedd cyn ymuno â'r byd academaidd yn 2010 lle, fel rhan o'i waith, hyrwyddodd adrodd straeon yn yr ystafell ddosbarth mewn cyrsiau addysg athrawon. Yn haf 2022, gadawodd Alastair ei rôl fel Prif Ddarlithydd Saesneg Cynradd ym Mhrifysgol Roehampton i ganolbwyntio ar adrodd straeon unwaith eto. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am waith Alastair yma: www.storytent.co.uk


Wedi’i gynnal gan Wendy Shearer, cythrudd gan Michael Harvey a Dr Alastair K. Daniel

Wedi’i gyflwyno ar y cyd â Chanolfan Adrodd Straeon, Prifysgol De Cymru

Click HERE for the English page


GDPR a Chydsyniad Data, Cyfieithu ar y Pryd a Chofrestru

Bydd gwybodaeth a ddarparwch yn cael ei chadw yn unol â GDPR, Deddf Diogelu Data 2018, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a'n Datganiad Preifatrwydd personol sydd ar gael ar ein gwefan. Drwy gofrestru, rydych yn deall y gellir rhannu gwybodaeth am bresenoldeb gyda chydweithwyr at ddibenion monitro a gwerthuso effaith yn unig. Cliciwch YMA i weld ein hysbysiad preifatrwydd.

Cynhelir y digwyddiad hwn drwy gyfrwng y Saesneg. Cynhelir y digwyddiad hwn drwy gyfrwng y Saesneg. Os hoffech ofyn cwestiwn yn y Gymraeg, cysylltwch â Cherry.Barber-Mansell@southwales.ac.uk o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y digwyddiad, ond nodwch efallai na fyddwn yn gallu darparu cyfieithydd.

Ymddiheurwn nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn anffodus, nid yw'r platfform a ddefnyddiwn yn cynnig y gwasanaeth hwn.


Organized by

Free
Dec 12 · 3:00 AM PST